Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-15-12 papur 7

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn – Ymweliad â Datblygiad Woodcroft Cymorth Hafod (8 Chwefror 2012)

 

Cefndir

1.   Fel rhan o’r ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn, bu aelodau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ymweliad â Datblygiad Woodcroft Cymorth Hafod ar 8 Chwefror 2012.

 

2.   Yn ystod yr ymweliad cyfarfu aelodau’r Pwyllgor â chynrychiolwyr o blith staff Cymorth Hafod a’i rhiant-gorff, Hendre Cyf. Diben yr ymweliad oedd:

 

·         gweld cyfleusterau gofal preswyl newydd sbon – gan gynnwys fflatiau gofal agos a chartref gofal preswyl – cyn iddynt gael eu hagor i breswylwyr; a

 

·         dysgu mwy am y dull seiliedig ar ‘gampws’ a fabwysiadwyd gan Gymorth  Hafod yn natblygiad Woodcroft.

 

3.   Dewisodd y Pwyllgor ymweld â’r safle cyn agoriad swyddogol y cartref gofal er mwyn sicrhau nad oed presenoldeb yr Aelodau’n amharu ar breifatrwydd y preswylwyr. Bwriedir i’r Aelodau gael cyfle i sgwrsio â phreswylwyr unigol – fel rhan o waith ymgysylltu ehangach y Pwyllgor – yn ystod yr ymchwiliad.

 

4.   Mae’r papur hwn yn crynhoi’r pwyntiau allweddol a gododd yn ystod ymweliad y Pwyllgor.

Hanes safle Woodcroft

5.   Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y cartref gofal gwreiddiol ar safle Woodcroft, a adeiladwyd yn yr 1960au, yn cael ei redeg gan Gyngor Sir Caerdydd, gyda chymorth Cymorth Hafod. Mae Hafod bellach wedi cymryd y datblygiad gyda les hirdymor am rent rhad, sydd wedi caniatáu iddi ailddatblygu’r cyfleusterau.  

 

6.   Dywedwyd wrth yr Aelodau fod yr ailddatblygiad wedi golygu dymchwel yr adeilad presennol ac adeiladu cartref gofal newydd ar y safle, yn ogystal ag adeiladu nifer o fflatiau ‘gofal agos’. Mae’r cartref gofal newydd bellach ar fin cael ei gofrestru a disgwylir iddo gael ei agor yn swyddogol ym mis Ebrill 2012.

 

 

 

Y Datblygiad Woodcroft newydd

Cyfleusterau’r cartref gofal preswyl

7.   Eglurodd staff Hafod wrth yr Aelodau fod 60 uned yn y cartref gofal - 24 ar y llawr daear, a 18 ar bob llawr arall. Mae’r llawr daear a hanner y llawr cyntaf ar hyn o bryd wedi’i neilltuo ar gyfer llety i’r henoed bregus eu meddwl . Nid oes gwelyau wedi’u neilltuo ar gyfer gofal nyrsio ar hyn o bryd, er bod yr adeilad wedi’i gynllunio’n bwrpasol er mwyn trefnu ar gyfer hyn yn y dyfodol, os bydd angen.

 

8.   Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y cartref gofal wedi’i rannu’n sawl adain. Mae hyn yn caniatáu defnydd hyblyg o fannau y gellir eu hail-ddyrannu yn ôl yr angen,  gan y dywedwyd wrth yr Aelodau fod gofal am yr henoed bregus eu meddwl yn ei gwneud yn ofynnol i ddrysau ar gyfer y mannau sy’n cael eu rhannu fod yn rhai y gellir eu cloi.  Hefyd mae cyfyngiad ar faint o fannau agored sydd ar gael.

 

9.   Dywedwyd wrthym fod y cartref gofal wedi costio £4.6 miliwn i’w ddatblygu, sy’n cyfateb i tua £75,000 y gwely.  Mae pob ystafell o’r un safon, ac maent i gyd â chyfleusterau en-suite. 

 

10.        Eglurodd staff Hafod na roddwyd unrhyw grant tai cymdeithasol ar gyfer datblygu’r cartref gofal, er eu bod yn credu mai ychydig o effaith fyddai hyn wedi’i gael gan fod y costau cyfalaf yn eithaf isel o’u cymharu â gwariant fel costau staffio ac ati.

 

11.        Mae’r Aelodau ar ddeall bod Cyngor Caerdydd wedi gwneud archeb bloc am 24 gwely yn y cartref gofal ar raddfa a gytunwyd. Eglurwyd fod hyn wedi helpu Cymorth Hafod gan ei fod yn sicrhau y bydd rhywfaint o breswylwyr yn y cartref bob amser o leiaf. Dywedwyd wrthym hefyd fod Cyngor Caerdydd yn cau nifer o gartrefi ar draws y ddinas, sydd wedi cynyddu’r galw, ond mae natur gofal preswyl yn newid, gyda phobl yn aros yn eu cartrefi eu hunain yn hwy. Dywedwyd wrthym fod hyn yn effeithio ar ddarparwyr.

Fflatiau ‘gofal-agos’

12.        Yn ychwanegol at y cartref gofal a ddisgrifir uchod, aeth cynrychiolwyr Cymorth Hafod hefyd ag aelodau’r Pwyllgor i ymweld â’r 15 fflat ‘gofal-agos’ a adeiladwyd ar yr un safle.

 

13.        Yn wahanol i’r tir ar gyfer y cartref gofal, (a drosglwyddwyd i Gymorth Hafod ar les hirdymor am rent rhad), dywedwyd wrthym fod y tir ar gyfer y fflatiau wedi’i brynu oddi wrth Gyngor Caerdydd gan Gymorth Hafod ar raddfa fasnachol. Eglurodd Cymorth Hafod fod rhywfaint o grant tai cymdeithasol ar gael i ddatblygu’r fflatiau ac mai cyfanswm cost y datblygiad oedd £1.8 miliwn (tua £125,000 y fflat).

 

14.        Eglurodd staff Hafod fod y preswylwyr sy’n byw yn y fflatiau i gyd wedi’u henwebu ar gyfer y cyfleusterau hyn drwy Gyngor Caerdydd.

15.        Dywedwyd wrthym fod y fflatiau’n caniatáu i breswylwyr fyw’n annibynnol tra’u bod yn cael systemau cymorth  - fel y tîm gofal 24 awr y dydd a’r tîm cymorth tai – os oes angen. Gall preswylwyr y fflatiau hefyd gael mynediad at gyfleusterau fel prydau bwyd a gweithgareddau sy’n cael eu rhedeg yn y cartref pan fyddant yn dewis.  Eglurodd y staff fod hyn hefyd yn creu cyswllt â’r cartref os bydd anghenion preswylwyr y fflatiau yn y dyfodol yn golygu y byddant yn dymuno – neu angen – symud i’r lleoliad arall hwnnw yn ddiweddarach yn ystod eu bywyd

Staffio, ariannu a darparu adnoddau ar gyfer y datblygiad

16.        Dywedwyd wrth y Pwyllgor y bydd oddeutu 90 o staff yn cael eu cyflogi yn y datblygiad  -o’r ardal yn bennaf. Eglurodd ein gwahoddwyr fod llawer o weithwyr yn dewis dod o’r sector preifat, yn enwedig gan fod y sefydliad yn rhedeg rhaglen hyfforddi ac anwytho dda.  Yn ychwanegol at gyflogi staff lleol, mae’r sefydliad hefyd yn ceisio cefnogi busnesau lleol a phrynu’n lleol lle mae hynny’n bosibl.

 

17.        Dywedwyd wrthym fod strwythur ffioedd y cartref yn fras, fel a ganlyn:

·         £450 yr wythnos i breswylwyr sylfaenol

·         £530 yr wythnos i gleifion sydd â dementia 

·         £700-£750 yr wythnos am ofal nyrsio

 

18.        Eglurodd y staff fod y ffioedd hyn, o’u gwybodaeth hwy, yn ffafriol o’u cymharu â’r sector preifat, sy’n tueddu i godi ffioedd uwch ac sy’n aml yn codi tâl ychwanegol e.e. tâl ychwanegol am deledu.  Awgrymodd y staff hefyd, o’i gymharu â’r gost i’r GIG o un noson mewn gwely ysbyty a lle mae hynny’n glinigol briodol, gall costau gofal preswyl gynnig dewis arall sy’n rhoi gwell gwerth am arian.

Model Cymorth Hafod

19.        Eglurodd staff Hendre Cyf a Chymorth Hafod:

 

·         Cymdeithas Tai elusennol yw Cymorth Hafod sy’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau tai a chymorth i dros 1000 o bobl bob blwyddyn ar draws De a Gorllewin Cymru ac mae’n rhan o Grŵp Hendre. Caiff ei redeg fel cwmni dielw.

 

·         Fel cwmni dielw mae’n creu cronfeydd drwy fenthyg a chreu gwarged. Mae’n ail-fuddsoddi arian gwarged mewn prosiectau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes  - nid yw unrhyw arian a wneir yn mynd i gyfranddalwyr.  Mae ganddynt dargedau gweithredol i greu gwarged, ond ni chaiff yr elw hwn ei wneud ar draul gofal preswylwyr. Bydd datblygiad Woodcroft yn rhedeg ar ddiffyg ariannol am ychydig o flynyddoedd.